23.12.10

Nadolig Llawen gan Siopa yn Llanrwst



Nadolig Llawen i chi gyd gan Siopa yn Llanrwst.
Cofiwch gyda'r holl eira bod modd gwneud eich siopa munud olaf i gyd yn Llanrwst.





17.12.10

Llanrwst ar Google Hot Spot

Ewch i wefan Google Hot Spot a rhowch eich barn ar fusnesau a siopau Llanrwst.

Google Hot Spot Llanrwst

5.12.10

Neges gan Sion Corn i blant Cymru, Lloegr a Llanrwst

4.12.10

Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd



Mwy o luniau ar Blog Bys a Bawd   http://bys-a-bawd.blogspot.com/

Agoriad Swyddogol Bys a Bawd

Dydd Sadwrn 4ydd o Ragfyr 2010

Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd ar ei newydd wedd.

1000-1300 Sion Corn
1300-1400 Dewi Prysor yn arwyddo ei lyfr newydd
1430           Agoriad Swyddogol gyda Alun Ffred Jones
                   y Gweinidog Treftadaeth.


Croeso mawr i pawb!

28.11.10

Croeso Cynnes yn siopau Llanrwst - er yr eira

Er yr eira diweddar ma na groeso mawr i bawb yn siopau Llanrwst.

Y Siop Iechyd
Da ni yn estyn croeso hefyd i berchnogion newydd Y Siop Iechyd sydd wedi symud i'r hen Harp Stores.










 

Ewch i weld y siop ar ei newydd wedd gyda'r danteithion iachus sydd ar gael. Os am anrheg Nadolig, beth am hamper yn llawn cynyrch o'r siop.
Gwefan Y Siop Iechyd

Addurniadau Nadolig

Mae nifer o Siopau Llanrwst wedi dechrau addurno ei ffenstri. Un o'r rhai cyntaf oedd Rasio 1868, siop beics Llanrwst.

Mae'n werth ymweld er mwyn cael anrheg i unrhywyn sydd yn ymddori a seiclo.


15.11.10

Gwobrau Gwir Flas - Llongyfarchiadau i gwmniau o Lanrwst

Llongyfarchiadau i siop Blas ar Fwyd ar enill gwobr Aur am ei Cawl Cyw Iar a Chwrw Cymreig yn ngwobrau Gwir Flas Cymru.
Mae Gwobrau Gwir Flas yn dathlu'r dywydiant bwyd yn Nghymru.





Mae'r Cawl ar gael o Blas ar Fwyd a siopau eraill ar draws Cymru.

Gwyliwch y Gwobrwyo ar wefan S4C:
Gwobrau Gwir Flas


Dilynwch newyddion am Blas ar Fwyd ar
ei gwefan
http://www.blasarfwyd.com

ac ar ei tudalenau

Twitter Blas ar Fwyd

Facebook Blas ar Fwyd




Llongyfarchiadau i Siwgr a Sbeis o Llanrwst am enill y wobr Arian am ei Sbwng Coffi a Chnau Ffrengig a'r wobr Efydd am ei Florentines.

www.siwgrasbeis.com

(Lluniau o wefan www.gwirflas.tv )

2.11.10

Cardiau Nadolig - Bys a Bawd

Gan fy mod i wedi son am Dolig yn barod ar y blog yma be am i ni son am y cardiau. Y wraig heb son am sgwennu rhai eto ond unrhyw ddiwrnod rwan mi fydd y rhestr cyfeiriadau allan.


Mae gan Siop Bys a Bawd ddewis eang yn barod o gerdiau Dolig



Yn ogystal mae yna Hoodies newydd ar werth sydd yn edrych yn gret ac yn wych ar gyfer y tywydd diweddaraf.


Yn olaf, mae na gopiau ar gaset o Dolphin Pinc a Melyn gan Jen Jeniro ar gael am £3.00.
Mae o'n un o ganeuon gorau 2010


Toy Story - Trysorau Bach

 Sydd ddim angen mynd i "Anfeidredd a thu hwnt" i gael gafael ar eich hoff gymeriadau Toy Story yn Llanrwst
 Mae gan  Trysorau Bach ar sgwar Llanrwst , lond ffenest o degannau Toy Story sydd yn edrych yn wych ac yn denu plant bach a mawr.
 Gyda'r Nadolig yn dod ( wps dyna fi wedi ddeud o) mae Trysorau bach yn lle delfrydol ar gyfer anrhegion gyda dewis helaeth yn y cefn a gwasanaeth catalog.


Trysorau Bach
Ancaster Sq
Llanrwst LL26 0LD
01492 640 995

23.10.10

Ty Asha Balti

Mae Ty Asha Balti House yn un o'n hoff dai bwyta Bangladeshaidd / Indiaidd. Mae na Fwydlen gwych ac mae'r gwasanaeth yn chwaethus a modern.
Os ydych yn cael "tec awe" ceisiwch fynd ar y we i weld y fwydlen

http://www.asha-balti-house.co.uk/menu/

gan fod mwy yno nag sydd ar y fwydlen bapur.

Edrychwch allan am y Mouchat Cyw Iar sef cyw iar mewn saws cneuen goco, almwn, hufen a mel.

Pa reis ges i? Reis nionyn wedi ffrio.

Arbennig o dda.

3.9.10

Tlysau a Gemwaith - Siop Bys a Bawd #pethaubychain















Ar gael o Siop Bys a Bawd, casgliad o emwaith a thlysau gan gwmni Tlws a Ronin




28.8.10

Ffondants Bendigedig


Ar gael o Scilicorns, Stryd Dinbych, Llanrwst.

16.7.10

Llyfr y Flwyddyn, Y Sioe Fawr a'r Eisteddfod - Siop Bys a Bawd

Llyfr y Flwyddyn
Llongyfarchiadau i Dr John Davies am ennill Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda ei lyfr "Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw" (lluniau gan Marian Delyth)












Y Sioe Fawr

"Ymlaen a'r sioe" gan Charles Arch a Lyn Ebenezer - llyfr am Y Cardi ar Sioe Frenhinol













Yr Eisteddfod

Cynlluniwch eich wythnos yn yr Eisteddfod o flaen llaw 









Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010


Pob un o'r llyfrau ar gael o Siop Bys a Bawd, Llanrwst 

13.7.10

Torri Gwallt - Grade One @FionaGradeOne


Diolch mawr i Paul am dorri'n ngwallt i heddiw













Cyn ac ar ol

Dilynwch Paul a Fiona ar eu tudalen Twitter

Newyddion, safbwyntiau a barn y cwsmeriaid.

25.6.10

Cynnyrch Gwallt - Grade One

Ar gael gan Fiona neu Paul yn Grade One.



















Tonic i'r gwallt. Yn ol bob son mae o yn dda i'r gwallt ac yn helpu ei steilio.














Cwyr Gwallt StarGazer

Dilynwch hynt a helyntion Fiona a Paul o Grade One ar Twitter


Hen Stablau, Llanrwst

22.6.10

Cynigion mis Mehefin - Rasio 1868

Cynigion Mis Mehefin
Casetiau BBB
Mae casetiau BBB wedi ei cynllunio i bara,maen't yn ddibynadwy ac yn hawdd wi defnyddio yn yr amgylchiadau caletaf.
Meintiau:
7spd 12-23T oedd yn £21.49 RWAN £15.00
8spd 11-28T oedd yn £24.99 RWAN £19.00
10spd 11-23T oedd yn £45.99 RWAN £35.00
10spd 11-25T, 12-25T oedd yn £48.99 RWAN£37.00
Disciau Brec Deore
Mae cit brec Hydraulic Deore M535 yn cynnwys lifer / caliper gyda piben a throellwr 6 bollt wedi ei waedu yn barod ac yn barod i'w osod.

RRP £99.99

Dim ond £80.00 yr un neu £150 y par.
yn cynnwys gosod am ddim tra bydd stoc.
Pecynnau SIS
Pob cwdyn SIS yn Prynu Un, Un Am Ddim
tra bydd stoc
Pwmpwyr Rav X
20% i ffwrdd o bob pwmp RavX
tra bod stoc
Pwmp RSP Mini Track
20% i ffwrdd o bob pwmp RSP Mini track
tra bod stoc
Tiwbiau 26" Presta
Pob tiwb 26" Presta

Prynnwch 3 am £12.50

RRP £4.99 yr un
tra bydd stoc



20.6.10

Fy hoff gaws ar hyn o bryd


Celtic Saval

Caws Teifi sydd yn cael ei drin a'i aeddfedu mewn Seidr.

Ar gael o Siop Blas ar Fwyd Llanrwst


11.6.10

Llyfrau Pel Droed - Sticeri a Cwpan y Byd



I gyd fynd gyda Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn De Affrica mae yna ddau lyfr am bel droed.

Mae'r Llyfr Sticeri Pel Droed yn llawn sticeri iw gosod ar dudalenau'r llyfr.
Mae Cwpan y Byd 2010 yn llawn gwybodaeth am y 32 tim sydd yn chwarae yn y bencampwriaeth. Mae hefyd yn cynnwys siart goliau a gemau.

Ar gael o Siop Bys a Bawd


4.6.10

Prawf sensitifrwydd bwyd - Siop Iechyd Llanrwst


Bydd profion sensitifrwydd bwyd yn cael ei gynnal yn y Siop Iechyd Llanrwst ar ddydd Sadwrn y 5ed o Fehefin.
Cysylltylltwch ar Siop Iechyd am fwy o wybodaeth.

Ffon 01492 641669



27.5.10

Dathlu 400 mlynedd yr Elusendau



Bydd dathliad 400 mlynedd yr Elusendai yn cael ei cynnal yn nghanol dref Llanrwst ar Ddydd Sadwrn 29ain o Fai.
Bydd yna farchnad Fictorianaidd er mwyn i chi gael profi Siopa yn Llanrwst 100 mlynedd a mwy yn ol.
Mae nifer o siopau wedi bod yn arddurno eu ffenestri fel rhan o'r dathliadau.
Y Gyrlen Gain
Electricare
Bys a Bawd
Y Siop Iechyd

Dewch i ddathlu a siopa yn Llanrwst

Ewch i llanrwst.net am fwy o wybodaeth