26.2.10

Paratoi ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi

Mae trigolion Llanrwst wrthi'n paratoi at ddathlu Gwyl Ddewi ar Fawrth y 1af.

Prynnwch dusw bach del o Gennin Pedr
gan Mrs Williams
yn y Siop Flodau (GL & RM Williams )
ar Ffordd yr Orsaf.





Bydd caffi Contessa yn cynnig danteithion Cymreig fel Lobsgows
a Caws Pob ar eu bwydlen ddydd Llun.


I'r rhai fydd angen Cennin i'w cap neu i wneud
Cawl Cennin ewch i weld Wyn yn O'r Pridd i'r Plat.







Cyn y dathlu cofiwch wylio Can i Gymru ar Nos Sul yr 28ain o Chwefror.
Bydd Tomos Wyn (mab Wyn a Paula) yn canu can Alun Tan Lan yn y gystadleuaeth ar S4C.
Cofiwch wylio a phleidleisio i Bws i'r Lleuad.

Penblwydd Hapus Siwgr a Sbeis

Bydd y cwmni gwneud cacennau a danteithion o Lanrwst yn dathlu ei benblwydd yn 21 oed heddiw.









Fel rhan or dathliadau bydd Siwgr a Sbeis yn cyflwyno dewis newydd o gacenau a phwdinau.

Cacennau bach gyda sbeis sinamon a siwgr ar ei top, sydd yn cyd-fynd a enw'r cwmni, fydd y cyntaf i'w gweld yn y siopau.

Prynwch nhw yn Spar Llanrwst

22.2.10

Coffi y mis - Caffi Contessa








Coffi y mis ydi Roma.

Coffi nad yw'n rhy gryf ond yn mynd yn neis iawn gyda chacen o Gaffi Contessa.



19.2.10

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Mae hi'n Wythnos Llyfr yn Anrheg ag rhwng y 15fed o Chwefror a'r 6ed o Fawrth 2010 mae na gynnigion arbennig ar lyfrau yn Siop Bys a Bawd.

I oedolion

Cymru ar blat - Nerys Howells

£5.50 yn lle £8.50




Cymru- 100 lle iw weld cyn marw
- John Davies

£13.50 yn lle £19.95


Stori'r Gymraeg - Catrin Stevens
£3.99 yn lle £5.99





Y Ferch ar y Ffordd - Lleucu Roberts
£4.95 yn lle £7.95






Taith i Awstralia - Roger Boore
£4.50 yn lle £8.99




Y Tiwniwr Piano - Catrin Dafydd
£5.30 yn lle £7.99





Sulwyn
£4.95 yn lle £7.95




I blant

Gwyliau Sali Mali
£2.50 yn lle £3.99





Fy Llyfr Geiriau Cyntaf (Lluniau Magned)
£3.99 yn lle £5.99




Alun yr Arth a'r Tan Mawr
£1.95 yn lle £2.95




Curig a'r Morlo
£3.95 yn lle £5.95




Gweld Ser 7 - Seren
£3.00 yn lle £4.95






Y Bachgen mewn pyjamas
£4.50 yn lle £6.95




Rhain i gyd ar gael o Siop Bys a Bawd

16.2.10

Hamper Gwyl Ddewi

Dathlwch Gwyl Ddewi eleni gyda hamper Blas ar Fwyd.










Mae'r hamper arbennig yn cynnwys Cacen Gwyl Ddewi
a chynnyrch amrywiol Blas ar Fwyd.










Bydd Deiniol o Blas ar Fwyd yn anfon hamperi a
chynnyrch amrywiol enillwyr y Gwir Flas i Frwsel
ar gyfer Cinio Dathlu Gwyl Ddewi gyda Carwyn Jones y Prif Weinidog.
Bydd yn teithio drwy Gymru dydd Mercher ac yn casglu
cynnyrch Cymreig cyn dal y cwch yn Dover ben bore dydd Iau ac ymlaen i Frwsel.
Bydd yn dychwelyd i'r siop ddydd Gwener,
ond bydd yn dychwelyd i'r dathliadau ym Mrwsel fore dydd Llun.

Cysylltwch a Blas ar Fwyd i
archebu hamper o'ch dewis chi.

15.2.10

Crempog

Mae'n ddydd Mawrth Ynyd fory felly chwiliwch drwy'r cypyrddau am y cynhwysion i neud crempog.
Dyma'n ymgais ni flwyddyn diwethaf i ddilyn cyfarwyddyd Delia i neud crempog gyda siwgwr a lemon.

Mae cynhwysion i neud crempog Delia ar gael o
Y Siop Iechyd
Blas ar Fwyd
Harp Stores
Siop Farm and Dairy Produce
Spar

ac os di'r badell ffrio ar goll neu yn hen ewch i C.L Jones am un newydd

11.2.10

Cigydd y Cariadon


I'r rhai fydd yn gneud pryd arbennig i'r partner dros y penwythnos beth am fynd draw at Cigydd y Cariadon - O.E.Metcalfe


Mae yna gynnig arbennig ar ei Stec Sirloin ar gyfer San Ffolant



9.2.10

Llyfrau Serch - San Ffolant

Beth am brynu llyfr i'ch ffolant eleni?
Dyma beth sydd ar gael ar silffoedd siop Bys a Bawd yn Llanrwst.

Hoff Gerddi Serch Cymru






Hogan Horni isio mwy - Menna Medi







Tinboeth






Tinboethach





Chocolate Mousse and two spoons - Lorraine Jenkin







The Quality of Love - Rosie Harris






My Lady Notorious -Jo Beverley






More than just a wedding - Nia Pritchard






Dancing with Mr Darcy




neu efallai CD serchus

Rhosyn rhwng fy nannedd




Mae casgliad arbennig o gardiau hefyd ar gael o siop Bys a Bawd

7.2.10

Deiniol ar Wedi7

Mi fydd Deiniol ap Dafydd o siop Blas ar Fwyd yn westai
ar Wedi7 nos Lun, 8fed o Chwefror.
Cofiwch wylio am 7 or gloch ar S4C
neu pnawn Mawrth 1335.

5.2.10

Syniadau San Ffolant - Ty

Gyda llai na deg diwrnod i fynd tan diwrnod San Ffolant dyma ambell syniad am anrhegion i gariadon Llanrwst.

Calonnau Ty






Rhowch galon i'ch cariad.


Ar gael o siop Ty

Cofiwch ddefnyddio eich cerdyn ClubRewards
a chael pwyntiau gwobr am siopa yno.


neu gofynnwch i Huw yn Ty am gerdyn.