27.5.10

Dathlu 400 mlynedd yr Elusendau



Bydd dathliad 400 mlynedd yr Elusendai yn cael ei cynnal yn nghanol dref Llanrwst ar Ddydd Sadwrn 29ain o Fai.
Bydd yna farchnad Fictorianaidd er mwyn i chi gael profi Siopa yn Llanrwst 100 mlynedd a mwy yn ol.
Mae nifer o siopau wedi bod yn arddurno eu ffenestri fel rhan o'r dathliadau.
Y Gyrlen Gain
Electricare
Bys a Bawd
Y Siop Iechyd

Dewch i ddathlu a siopa yn Llanrwst

Ewch i llanrwst.net am fwy o wybodaeth


25.5.10

Gwely Personol


Mae C.L. Jones yn cynnig gwasanaeth cerfio enwau ar wlau.
Dewisiwch pen gwely o ddewis eang yn y siop ac am £25 yn ychwanegol gallwch ei bersonoli.
Galwch yn C.L. Jones am fwy o wybodaeth.


10.5.10

Nofel y mis - Mis Mai - Llafnau



Nofel y mis Gwales ar gyfer Mis Mai ydy Llafnau gan Geraint Evans.

"Caiff y ffermwr Martin Thomas ei lofruddio ar ei ffordd adre o gyfarfod tanbaid yn neuadd bentref Esgair-goch i drafod datblygu fferm wynt ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Dialedd a chenfigen sydd wrth wraidd teimladau sawl un yn yr ardal tuag at Martin. Mae'r tri ditectif a fu wrthi'n datrys llofruddiaeth Elenid yn Y Llwybr yn wynebu sawl her unwaith eto."

Llafnau gan Geraint Evans ar gael o Siop Bys a Bawd, Llanrwst



5.5.10

Derbynfa newydd Gwesty'r Dolydd

Mae'r rhai ohonoch sydd yn mynd i Westy'r Dolydd yn aml wedi sylwi ar y steil arbennig mae Nelson a Mary wedi ei greu yn ei bar ac ystafell fwyta.
Mis diwethaf mi gaeth y dderbynfa ei drawsnewid gyda help llaw sawl siop a busnes Llanrwst.
Mae'r lliwiau aur a brown tywyll yn dilyn o'r bwyty i mewn i'r dderbynfa a'r lolfa fach.
Papur Wal o siop K. Dickinson
Gorchuddiwr Dodrefn G. Williams (Tanc)
Clustogau a Chyrtans Helen@ Siop y Plow
Golau o siop Ty


Gwesty'r Dolydd a bwyty Lle Hari 01492 642111 Gwefan

Siop Papur Wal a Phaent K. Dickinson Stryd Watling 01492 640235

Gorchuddio Dodrefn G. Williams (Tanc) 01492 641193

Clustogau a Chyrtans Siop y Plow Ffordd yr Orsaf 01492 640679

Siop Ty Sgwar Ancaster 01492 642224 Gwefan


Cofiwch ddefnyddio eich Cerdyn ClubShop Rewards yn Ty, yn Ngwesty'r Dolydd ac yn lle Hari.