28.11.10

Croeso Cynnes yn siopau Llanrwst - er yr eira

Er yr eira diweddar ma na groeso mawr i bawb yn siopau Llanrwst.

Y Siop Iechyd
Da ni yn estyn croeso hefyd i berchnogion newydd Y Siop Iechyd sydd wedi symud i'r hen Harp Stores.










 

Ewch i weld y siop ar ei newydd wedd gyda'r danteithion iachus sydd ar gael. Os am anrheg Nadolig, beth am hamper yn llawn cynyrch o'r siop.
Gwefan Y Siop Iechyd

Addurniadau Nadolig

Mae nifer o Siopau Llanrwst wedi dechrau addurno ei ffenstri. Un o'r rhai cyntaf oedd Rasio 1868, siop beics Llanrwst.

Mae'n werth ymweld er mwyn cael anrheg i unrhywyn sydd yn ymddori a seiclo.


15.11.10

Gwobrau Gwir Flas - Llongyfarchiadau i gwmniau o Lanrwst

Llongyfarchiadau i siop Blas ar Fwyd ar enill gwobr Aur am ei Cawl Cyw Iar a Chwrw Cymreig yn ngwobrau Gwir Flas Cymru.
Mae Gwobrau Gwir Flas yn dathlu'r dywydiant bwyd yn Nghymru.





Mae'r Cawl ar gael o Blas ar Fwyd a siopau eraill ar draws Cymru.

Gwyliwch y Gwobrwyo ar wefan S4C:
Gwobrau Gwir Flas


Dilynwch newyddion am Blas ar Fwyd ar
ei gwefan
http://www.blasarfwyd.com

ac ar ei tudalenau

Twitter Blas ar Fwyd

Facebook Blas ar Fwyd




Llongyfarchiadau i Siwgr a Sbeis o Llanrwst am enill y wobr Arian am ei Sbwng Coffi a Chnau Ffrengig a'r wobr Efydd am ei Florentines.

www.siwgrasbeis.com

(Lluniau o wefan www.gwirflas.tv )

2.11.10

Cardiau Nadolig - Bys a Bawd

Gan fy mod i wedi son am Dolig yn barod ar y blog yma be am i ni son am y cardiau. Y wraig heb son am sgwennu rhai eto ond unrhyw ddiwrnod rwan mi fydd y rhestr cyfeiriadau allan.


Mae gan Siop Bys a Bawd ddewis eang yn barod o gerdiau Dolig



Yn ogystal mae yna Hoodies newydd ar werth sydd yn edrych yn gret ac yn wych ar gyfer y tywydd diweddaraf.


Yn olaf, mae na gopiau ar gaset o Dolphin Pinc a Melyn gan Jen Jeniro ar gael am £3.00.
Mae o'n un o ganeuon gorau 2010


Toy Story - Trysorau Bach

 Sydd ddim angen mynd i "Anfeidredd a thu hwnt" i gael gafael ar eich hoff gymeriadau Toy Story yn Llanrwst
 Mae gan  Trysorau Bach ar sgwar Llanrwst , lond ffenest o degannau Toy Story sydd yn edrych yn wych ac yn denu plant bach a mawr.
 Gyda'r Nadolig yn dod ( wps dyna fi wedi ddeud o) mae Trysorau bach yn lle delfrydol ar gyfer anrhegion gyda dewis helaeth yn y cefn a gwasanaeth catalog.


Trysorau Bach
Ancaster Sq
Llanrwst LL26 0LD
01492 640 995