5.12.11

Gwin ar gyfer y Dolig - Blas ar Wîn #Nadolig

Mae yna Sêl Wîn yn Blas ar Wîn, Ffordd yr Orsaf, Llanrwst
Rhagfyr y 3ydd hyd at 11fed 2011


28.11.11

Pam mynd mor bell? Owens Electrical



Rydym yn rhan o  Euronics 

WAW!!
Teledu LCD HD Llawn 24"  gan Haier dim ond £169.99!!! Yr anrheg perffaith.

Gwarant 5 mlynedd ar ddewis o setiau teledu Panasonic!

Pam trafeilio lawr i'r Glannau? Mae gennym ddewis eang o offer trydanol ar gyfer y Nadolig!

O Gymysgwyr llaw a Proseswyr Bwyd, Tegell a Tosters, Blancedi Trydan, Offer gofal gwallt ac Eillwyr, Setiau Teledu ac Offer Recordio, Radios a Systemau Cerddoriaeth, Poptai, Peirianau Golchi, Oergellau, Rhewgelloedd,Poptai Ping, Sugnwyr Llwch . 
Galwch mewn i 23 Stryd Dinbych i weld beth sydd gennym i'w gynnig!

22.11.11

The Crafty Kitten





Mae The Crafty Kitten wedi agor ac yn llawn o fodelau ag anrhegion ar werth gan yr artist Nicola Edwards.
Mae pob model yn dod gyda ei dystysgrif i ddangos ei fod yn unigryw.
Mae Nicola hefyd yn gwerthu clai ac offer modelu Fimo a Staedtler yn ei siop ar Ffordd yr Orsaf.

http://www.the-crafty-kitten.co.uk


14.10.11

Cefnogi Cymru - #cwpanybyd #rygbi

Mae nifer o Siopau a Busnesau Llanrwst yn dangos ei cefnogaeth i'r tim cenedlaethol drwy addurno ei ffenestri.
Caffi Contessa - C'mon Cymru
Dreigiau yn y siop newydd Crafty Kittens (heb agor eto)

Popeth ar gyfer y cefnogwr yn Trysorau Bach

Dreigiau Coch yn Blodeuwedd

Llyfrau Rygbi a Chwaraeon yn Bys a Bawd

Cefnogi'r Cochion mae Karen

Y Gyrlen Gain yn gobeithio y bydd Cymru yn fuddugol.

.......ac ar ol y gem?? Dewch draw i Siopa yn Llanrwst

30.9.11

Bagiau Plastig Hydref 1af 2011 #Llanrwst

O fory ymlaen mi fydd rhaid i chi dalu 5c am fag i gario eich siopa. Mi fydd hi'n orfodol codi tal oherwydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru.


Dyma be oedd gan John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd i'w ddweud.

Beth yw barn siopwyr Llanrwst? Rhowch sylwadau yn y bocs oddi tano.

1.9.11

Bylbs 60W

Ers 1200 or gloch neithiwr ni fydd y bylb 60W fel yr ydym ni yn ei nabod yn cael ei cynhyrchu yn yr Undeb Ewropiaidd. Fel y bylb 100W mi fydd siopau yn cael ei gwerthu tan y bydd ei stoc wedi rhedeg allan.

Mae gan Electricare ddewis eang o fylbiau o bob math.

Ewch draw cyn y bydd y rhai 60W wedi mynd neu beth am rhai sydd yn dda i'r amgylchedd.

19.7.11

Llyfrau'r Haf 2011- Siop Bys a Bawd, Llanrwst


Dilynwch  tudalennau Blog, Twitter neu Facebook Siop Bys a Bawd am y llyfrau Cymraeg diweddaraf sydd yn cael ei rhyddhau yn Haf 2011
Haf o ddarllen gyda Siop Bys a Bawd, Llanrwst


25.6.11

Ty - Llanrwst

17.6.11

Sul y Tadau - #Llanrwst

Dydd Sul yma mi fydd hi'n Sul y Tadau. Am yr anrheg arbennig i'r tad perffaith dewch i siopa yn Llanrwst.

Eisiau syniadau munud olaf?

Cariad














Pethau i'r ardd neu dolennau llewys arian

Siop Karen


























Persawr Eillio neu sebon crand

Bys a Bawd


























CD neu Lyfr

Blas ar Fwyd / Win


















Potel o Win a chydig o gaws!

Sul y Tadau Hapus!

2.6.11

Erthygl ar siopau #Llanrwst - North Wales Weekly News






Erthygl am siopau gwych Llanrwst gan Samantha Castle

Mynwch gopi o'r papur neu darllenwch yma

1.6.11

Oes rhywyn yn ffansi sialens? - @LleHari #Llanrwst

25.5.11

Artnoir - Siop Newydd yn #Llanrwst


Hoffwn longyfarch Carol a Steve Allen sydd wedi agor Siop Artnoir ar Ffordd yr Orsaf yn Llanrwst.
Mae Artnoir yn cynnig gwasanaeth Ffotograffiaeth, Fideo a Phrintio ac yn arbennigo mewn sawl maes.

Am fwy o wybodaeth

www.artnoir.co.uk

01492 640371

20.5.11

Llyfr y Flwyddyn 2011 - Y Rhestr Fer - ar gael o Bys a Bawd, Llanrwst

Caersaint     Lladd Duw     Bydoedd




bysabawd.blogspot.com    www.bysabawd.com

10.5.11

Wythnos Cenedlaethol y Doughnut Mai 7fed -14fed #Llanrwst

Dathlwch wythnos y Doughut yma yn Llanrwst drwy fynd i Scilicorns a prynu llond bag iw rhannu neu i'w bwyta ar ben eich hun.


4.5.11

Cariad - Llanrwst


Croeso mawr i Siop Cariad a'r Stryd Dinbych yn Llanrwst.
Cariad ydi'r siop ddiweddaraf i agor yma.



Mae Cariad yn gwerthu pob math o anrhegion, gemawaith a thrincets.
"Lot o betha bach lyfli" fel ddedodd y wraig.


Yn arbennig yn ystod yr agoriad mi gewch chi Galon am ddim pan wariwch drost £5.

Cariad , Ffordd Dinbych, Llanrwst 07751 542335  cariad_gifts@hotmail.co.uk

27.4.11

Dim Pwmpen on digon ar gyfer yr ardd yn #Llanrwst

Di ddim cweit yn dymor tyfu pwmpeni ond mae na siopau yn Llanrwst all helpu chi gyda'ch angenion gardd.

TY

Mae TY ar y sgwar newydd dderbyn planhigio bychain o lysiau poblogaidd.
Mae'r planhigion sydd yn cynnwys ciwcymbyrs, nionod a brocoli wedi ei magu yn Ngogledd Cymru.




Mae gan TY nifer o blanigion gardd eraill a dewis eang o gelfi a dodrefn i'r ardd.



CL Jones
Mae ffenest CL Jones ar Stryd Dinbych hefyd yn llawn offer a geriach ar gyfer eich gardd.
O botiau blodau i chwynladdwr ewch yno i gael gweld.



8.4.11

Y Tanerdy, Llanrwst

Dydd Sadwrn 9fed o Ebrill mi fydd Gerwyn Llyr Williams a'i dim yn agor y Tanerdy ar lan Afon Conwy yn Llanrwst.

Gyda thrwydded llawn mi fydd prydau ysgafn ar gael yn y dydd a phrydau fwy sylweddol yn ystod y nos.

01492 641655

3.3.11

Diwrnod y llyfr 2011 - Llanrwst


Dathlwch ddiwrnod y llyfr heddiw.
Prynwch lyfr yn un o siopau Llanrwst
Martins
Pickwicks


1.3.11

Dydd Gwyl Dewi Sant - Llanrwst

Beth am ddathlu Dydd Gwyl Dewi Sant yn Llanrwst.
Dewch am baned, siop ac i weld rhai o'r  ffenestri sydd wedi ei ardduno ar gyfer yr wyl.



Electricare ddim yn gwerthu bylbs Cennin Pedr ond bylbs 100W ar gael.












28.2.11

Llefydd i'w ymweld ar Dydd Gwyl Dewi Sant - #7 Blas ar Fwyd Llanrwst

Yn ol visit Snowdonia un or 10 lle i'w ymweld ar Ddydd Gwyl Dewi Sant ydi
Blas ar Fwyd yma yn Llanrwst.

http://visitsnowdonia.wordpress.com/2011/02/28/ten-ways-to-celebrate-st-davids-day-in-snowdonia/

Lwcus ein bod ni mor agos fel ein bod yn gallu ymweld unrhyw adeg or flwyddyn.

18.2.11

Scilicorns, Llanrwst

Eitem ddiddorol ar Becws Scilicorns yn Llanrwst

Llanrwst bakery is on the rise - North Wales Weekly News


12.2.11

Sant Ffolant Llanrwst 2011 - Lle Hari @llehari

Raunchy Roasted Pepper, Cheeky Chicken Fillet a Lovers Delight

I gyd ar fwydlen Sant Ffolant  Lle Hari 01492 642111

Sant Ffolant Llanrwst 2011 - Persawr

Angel - Thierry Mugler ,No5 -Chanel, Light Blue - Dolce and Gabbana,  Touch of Sun - Lacoste,
Eden - Cacharel, Paris - YSL

Hyn  i gyd a mwy o Siop Karen

Sant Ffolant Llanrwst 2011 - Blodau


Rhosyn i'ch Ffolant? Galwch mewn i GL a RM Williams neu ffoniwch 01492 640 262

11.2.11

Sant Ffolant Llanrwst 2011 - Amser Da a Blas ar Fwyd



Mae bwydlen Sant Ffolant arbennig ar gael yn Amser Da ar gyfer Nos Sadwrn, Nos Sul ac Nos Fercher.
Am £24.50 yp mi gewch cwrs 3 pryd yn cynnwys aperitif a choffi

Ffoniwch 01492 641188

Os ydych yn gwneud pryd rhamantus adref beth am botel bach o win Ffrengig o  Blas ar Win

Gwinoedd Ffrengig Blas ar Win

23.1.11

Diwrnod Santes Dwynwen 2011 - Llanrwst


Peidiwch anghofio am ddiwrnod y Cariadon dydd Mawrth y 25ain o Ionawr.
Tydi hi ddim yn rhy hwyr i gael anrheg i'r un yr ydych yn ei garu o siopau Llanrwst.

| Cardiau | Blodau | Persawr | I'w Fwyta | Anrhegion |

Cardiau
Mae dewis eang ar gael o:
Siop Bys a Bawd














Ty











Trysorau Bach












Blodau


Un, Hanner Dwsin, Dwsin neu efallai 100 o rhosynnau ar gael o:
Siopa Flodau G.L. a R.M.Williams












Persawr

Dewis helaeth o Siop Karen














I'w Fwyta
Love Hearts o Martins
















 Bisgedi Calon o Scilicorns













Bwydydd o'r Siop Iechyd
Anrhegion

Llyfrau Serch a Chalonau o Siop Bys a Bawd



 Calonau di ri o Siop Ty