27.4.11

Dim Pwmpen on digon ar gyfer yr ardd yn #Llanrwst

Di ddim cweit yn dymor tyfu pwmpeni ond mae na siopau yn Llanrwst all helpu chi gyda'ch angenion gardd.

TY

Mae TY ar y sgwar newydd dderbyn planhigio bychain o lysiau poblogaidd.
Mae'r planhigion sydd yn cynnwys ciwcymbyrs, nionod a brocoli wedi ei magu yn Ngogledd Cymru.




Mae gan TY nifer o blanigion gardd eraill a dewis eang o gelfi a dodrefn i'r ardd.



CL Jones
Mae ffenest CL Jones ar Stryd Dinbych hefyd yn llawn offer a geriach ar gyfer eich gardd.
O botiau blodau i chwynladdwr ewch yno i gael gweld.



8.4.11

Y Tanerdy, Llanrwst

Dydd Sadwrn 9fed o Ebrill mi fydd Gerwyn Llyr Williams a'i dim yn agor y Tanerdy ar lan Afon Conwy yn Llanrwst.

Gyda thrwydded llawn mi fydd prydau ysgafn ar gael yn y dydd a phrydau fwy sylweddol yn ystod y nos.

01492 641655