21.2.12

Dydd Mawrth Ynyd - Llanrwst #crempog


Mae hi'n ddydd Mawrth Ynyd felly os ydych yn Siopa yn Llanrwst heddiw cofiwch brynu cynhwysion ar gyfer crempog.

Gofynnwyd i ddau o drigolion Llanrwst sut oedd gwneud y Crempog perffaith.
Dyma ei rysetiau nhw.

Crempog Elwyn Caffi Contessa
15oz o flawd
5 wy
5oz o siwgr
Pinshiad o halen
15ml o lefrith
10ml o ddŵr

Cymysgu a'i gwcio mewn sosban ffrio

(Cymysgedd yma, heb y siwgwr yn dda ar gyfer Pwdin Swydd Efrog hefyd)

Ar y crempog:
Jam mefus a hufen ia
Siwgr a sudd lemon
Banana, Nutella a hufen ia
Oren a Grand Marnier

Mi fydd Caffi Contessa yn gweini Crempog drwy ddydd Mawrth Ynyd

Crempog Nelson Lle Hari
Dipyn o flawd codi
2 wy
Llwy fwrdd o olew llysiau
Ychwnaegu llefrith tan ei fod yn llifo
(ychwnaegwch fwy o lefrith i wneud crepes tennau)
Cymysgu a'i gwcio mewn padell ffrio.

Ar y crempog:
Surop Masarn wedi ei gynhesu a Menyn Pysgnau



Ac fel hyn mae taflu crempog

9.2.12

Archfarchnad

Gyda honiadau yn chwyrlio o gwmpas Llanrwst am yr archfarchnad newydd mae yna gyfarfod cyhoeddus wedi ei alw. Mi fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar y 15fed o Chwefror 2012 am 1830 yn Ngwesty'r Eryrod Llanrwst.
Mi fydd siaradwyr gwadd a cyfle i chi fynegi eich barn.

Ar lein mae yna flog newydd gyda lle i ddatgan barn a darllen newyddion am y datblygiadau.

http://tescollanrwst.blogspot.com

Twitter  http://twitter.com/tescollanrwst

Facebook http://www.facebook.com/pages/Archfarchnad-Llanrwst-Supermarket-Llanrwst/227009500723776

Mynegwch eich barn a cymerwch rhan yn y bleidlais barn.

Barclays Llanrwst - Amseroedd Agor Dryslyd

Mae yna ychydig o ddryswch wedi bod yn ddiweddar gyda amseroedd agor Banc y Barclays ar y sgwar yn Llanrwst.
 Os ydych yn digwydd darllen y Gymraeg mi fydd y banc wedi cau ar Dydd Mawrth a Dydd Iau
Ond yn Saesneg mi fydd wedi cau Dydd Mercher a Dydd Sadwrn.

Mae'r banc yn ymwybodol o'r dryswch meddai aelod o'r staff.

5.2.12

Cynnig Arbennig San Ffolant - Art Noir


4.2.12

Mis o Gariad - Bwyty Lle Hari


Galw ar gariadon Llanrwst a thu hwnt!
Archebwch fwrdd heddiw ar gyfer mis Chwefror.

01492 642111

Gweithdy Gwneud Defaid

Os hoffech ddysgu sut i wneud Defaid gyda clai Fimo beth am fynd i The Crafty Kitten dros hanner tymor.

Bydd cwrs ar y Dydd Mawrth y 14eg o Chwefror  a Dydd Iau 16eg o Chwefror.
Archebwch eich lle. Pris £10
01492 643454