19.11.13

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach - Rhagfyr y 7fed #llanrwst @siambrllanrwst @smallbizsaturdayuk



Cofiwch am Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar y 7fed o Rhagfyr.

Dewch i wneud eich SIOPA DOLIG a chefnogi busnesau bach Llanrwst.



6.6.13

Geraniums a photiau Terracotta - Siop Ty, #Llanrwst @directhomeware


Siop Ty 
Sgwar Ancaster, Llanrwst
Dodrefn, anrhegion, potiau a phlanhigion


31.3.13

Cyfarchion y Pasg - Siopau Llanrwst #llanrwst

Siopau a Busnesau Llanrwst, Pasg 2013

8.6.12

Tref farchnad nid tref archfarchnad #tesco #llanrwst


Cefnogwch eich busnesau lleol.

16.3.12

Sul y Mamau #sulymamau

Beth am ddathlu Sul y Mamau gyda anrheg o dref Llanrwst.

Bys a Bawd - anrhegion arbennig gyda  Mam wedi sgwenu ar ei hyd a cofiwch gerdyn o yma hefyd.

Mae gan Ty, Cariad, Trysorau Bach, Crafty Kitten ddigon o ddewis hefyd.

Beth am berswr o Siop Karen neu be am bryd o fwyd yn Amser Da neu Lle Hari.

Dathlwch Sul y Mamau yn Llanrwst.

12.3.12

50% i ffwrdd ar eitemau dethol - Blodeuwedd #bargeinion


Mae Blodeuwedd, siop lleni, defnydd, a dodrefn meddal
yn cynnig 50% i ffwrdd o eitemau dethol am gyfnod cyfyngedig.

Blodeuwedd
Ffordd yr Orsaf Llanrwst


21.2.12

Dydd Mawrth Ynyd - Llanrwst #crempog


Mae hi'n ddydd Mawrth Ynyd felly os ydych yn Siopa yn Llanrwst heddiw cofiwch brynu cynhwysion ar gyfer crempog.

Gofynnwyd i ddau o drigolion Llanrwst sut oedd gwneud y Crempog perffaith.
Dyma ei rysetiau nhw.

Crempog Elwyn Caffi Contessa
15oz o flawd
5 wy
5oz o siwgr
Pinshiad o halen
15ml o lefrith
10ml o ddŵr

Cymysgu a'i gwcio mewn sosban ffrio

(Cymysgedd yma, heb y siwgwr yn dda ar gyfer Pwdin Swydd Efrog hefyd)

Ar y crempog:
Jam mefus a hufen ia
Siwgr a sudd lemon
Banana, Nutella a hufen ia
Oren a Grand Marnier

Mi fydd Caffi Contessa yn gweini Crempog drwy ddydd Mawrth Ynyd

Crempog Nelson Lle Hari
Dipyn o flawd codi
2 wy
Llwy fwrdd o olew llysiau
Ychwnaegu llefrith tan ei fod yn llifo
(ychwnaegwch fwy o lefrith i wneud crepes tennau)
Cymysgu a'i gwcio mewn padell ffrio.

Ar y crempog:
Surop Masarn wedi ei gynhesu a Menyn Pysgnau



Ac fel hyn mae taflu crempog