28.11.11

Pam mynd mor bell? Owens Electrical



Rydym yn rhan o  Euronics 

WAW!!
Teledu LCD HD Llawn 24"  gan Haier dim ond £169.99!!! Yr anrheg perffaith.

Gwarant 5 mlynedd ar ddewis o setiau teledu Panasonic!

Pam trafeilio lawr i'r Glannau? Mae gennym ddewis eang o offer trydanol ar gyfer y Nadolig!

O Gymysgwyr llaw a Proseswyr Bwyd, Tegell a Tosters, Blancedi Trydan, Offer gofal gwallt ac Eillwyr, Setiau Teledu ac Offer Recordio, Radios a Systemau Cerddoriaeth, Poptai, Peirianau Golchi, Oergellau, Rhewgelloedd,Poptai Ping, Sugnwyr Llwch . 
Galwch mewn i 23 Stryd Dinbych i weld beth sydd gennym i'w gynnig!

22.11.11

The Crafty Kitten





Mae The Crafty Kitten wedi agor ac yn llawn o fodelau ag anrhegion ar werth gan yr artist Nicola Edwards.
Mae pob model yn dod gyda ei dystysgrif i ddangos ei fod yn unigryw.
Mae Nicola hefyd yn gwerthu clai ac offer modelu Fimo a Staedtler yn ei siop ar Ffordd yr Orsaf.

http://www.the-crafty-kitten.co.uk


14.10.11

Cefnogi Cymru - #cwpanybyd #rygbi

Mae nifer o Siopau a Busnesau Llanrwst yn dangos ei cefnogaeth i'r tim cenedlaethol drwy addurno ei ffenestri.
Caffi Contessa - C'mon Cymru
Dreigiau yn y siop newydd Crafty Kittens (heb agor eto)

Popeth ar gyfer y cefnogwr yn Trysorau Bach

Dreigiau Coch yn Blodeuwedd

Llyfrau Rygbi a Chwaraeon yn Bys a Bawd

Cefnogi'r Cochion mae Karen

Y Gyrlen Gain yn gobeithio y bydd Cymru yn fuddugol.

.......ac ar ol y gem?? Dewch draw i Siopa yn Llanrwst

30.9.11

Bagiau Plastig Hydref 1af 2011 #Llanrwst

O fory ymlaen mi fydd rhaid i chi dalu 5c am fag i gario eich siopa. Mi fydd hi'n orfodol codi tal oherwydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru.


Dyma be oedd gan John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd i'w ddweud.

Beth yw barn siopwyr Llanrwst? Rhowch sylwadau yn y bocs oddi tano.

1.9.11

Bylbs 60W

Ers 1200 or gloch neithiwr ni fydd y bylb 60W fel yr ydym ni yn ei nabod yn cael ei cynhyrchu yn yr Undeb Ewropiaidd. Fel y bylb 100W mi fydd siopau yn cael ei gwerthu tan y bydd ei stoc wedi rhedeg allan.

Mae gan Electricare ddewis eang o fylbiau o bob math.

Ewch draw cyn y bydd y rhai 60W wedi mynd neu beth am rhai sydd yn dda i'r amgylchedd.

19.7.11

Llyfrau'r Haf 2011- Siop Bys a Bawd, Llanrwst


Dilynwch  tudalennau Blog, Twitter neu Facebook Siop Bys a Bawd am y llyfrau Cymraeg diweddaraf sydd yn cael ei rhyddhau yn Haf 2011
Haf o ddarllen gyda Siop Bys a Bawd, Llanrwst


25.6.11

Ty - Llanrwst