30.3.10

Hufen Ia Retro yn Llanrwst
















Pwy sy'n cofio hufen ia Lyons Maid?
Mae'r blocyn 1litr yma ar gael o Siop Farm & Dairy Produce ar Stryd Watling
Cymerwch gam no i'ch plentyndod. Triwch o gyda rhwng dwy wafer.















Mae dewis eang o fwyd wedi rhewi a cynhyrch ffres yn y siop.

21.3.10

Caffi Rhaeadr y Graig - Trwydded Newydd a Hysbyseb Swydd









Or wythnos yma ymlaen gallwch fwynhau glasiad o win neu gwrw gyda'ch pizza yn Nghaffi Rhaeadr y Graig.
Yn enwog am ei pizzas, cacenau, coffi a'i croeso ewch i'w gwefan am fwy o wybodaeth.
Gwefan Caffi Rhaeadr y Graig

HYSBYSEB SWYDD - Chef/Rheolwr Cegin
Mae Caffi Rhaeadr y Graig yn chwilio am unigolyn sydd a profiad mewn coginio archeb byr gyda'r cymwysterau glendid bwyd a diogelwch.
Os ydych chi gyda angerdd mewn paratoi bwyd blasus ffresh dyma'r swydd i chi.
Mae'r swydd yn llawn amser gyda oriau tymhorol.
40 awr yn ystod yr Haf ac oleiaf 28 awr yn y Gaeaf.

Cysylltwch a Rebecca neu Oli Yates
01690 710696
info@conwyfalls.com

18.3.10

2 am bris 1 - Siop Offer Chwaraeon Llanrwst

Mae na nifer o gynigion 2 am 1 ar gael yn ffenest Siop Offer Chwaraeon Llanrwst (Ffatri Fferins)














Siop Chwaraeon Llanrwst, Ffordd Dinbych
(Cynigion 2 am 1 wedi labelu)

17.3.10

Widdershins - Casgliad dillad diweddaraf.










Mae gan siop Widdershins gasgliad newydd o
ddillad gan y cwmni The Earth Collection.
Mae'r dillad naturiol yma wedi ei gwneud gan
roi ystyriaeth i'r gwisgwr a'r amgylchedd.










Mae'r casgliad Earth Collection, dillad ac anrhegion eraill
ar gael yn siop Widdershins ar Ffordd Dinbych.
Ffon 01492 642006

8.3.10

Sul y Mamau - Pryd o fwyd yn Y Dolydd













Beth am ddathlu Sul y Mamau drwy fynd a'ch Mam am bryd o fwyd i'r Dolydd.

Archebwch fwrdd drwy ffonio 01492 642111

Cofiwch eich Cerdyn Clubshop Rewards gan bod Gwesty'r Dolydd wedi dechrau derbyn y Cerdyn Teyrngarwch. Felly cewch bwyntiau am fwyta neu aros yno.

Os hoffech gerdyn ewch i'r wefan Clubshop Rewards a chliciwch ar Sign Up, llenwch y ffurflen a byddwn yn anfon cerdyn atoch.

7.3.10

Syniadau Sul y Mamau - Persawr

Un o siopau Llanrwst sydd yn gwerthu nifer fawr o bersawr
ydi y Crwst Drug Store neu Siop Karen.













Ar gael mae
  • Channel
  • Calvin Klein
  • YSL
  • Kylie Minogue
  • Kate Moss
  • D & V Bekham
  • Celine Dion
  • Halle Berry
  • a mwy
Mae Siop Karen hefyd yn gwethu colur (Rimmel o Lundain), bagiau llaw, sgarffiau ffasiwn, gemwaith a lliw gwallt poblogaidd.

Siop Karen @ Yr Hen Stablau, Llanrwst

5.3.10

Electricare yn derbyn Cerdyn Teyrngarwch Llanrwst
















Siop Victor Jones, Electicare ydi'r ail siop yn Llanrwst ac yn Nghymru i dderbyn y cerdyn Clubshop Rewards.
Mae Victor yn gwerthu pob math o nwyddau trydanol.
Offer trydanol
Bylbiau
Bagiau Hwfer
Batris
a llawer mwy.

Mae Electricare hefyd yn ehangu drwy ddechrau gwerthu nwyddau cyfrifiadurol megis CDs, Cerdiau Flash gwag a chebls o bob math (mwy am hyn yn y dyfodol agos).
Cofiwch hefyd am y modelau mae Victor yn gwerthu yn ei siop ac ar ei wefan.
http://www.diecast-cars.co.uk/













Ewch i siopa yn Electricare a defnyddiwch y Cerdyn Clubshop Rewards i gasglu pwyntiau.
Mae cerdiau ar gael yn siop Electricare a siop Ty neu ewch i'r wefan yma
http://siopa-llanrwst.blogspot.com/p/cerdyn-teyrngarwch-llanrwst.html

cliciwch ar y cyswllt ymuno ac mi ddanfonwn gerdyn yn y post.

3.3.10

Coffi y mis


















Mae'n debyg fod Coffi y mis diweddaraf mor dda fel bod dim ar ol.
Felly rhaid oedd newid Coffi y mis i Brazil Bruzzi.

Tarddiad: Canol Brasil (GogOrll o Rio De Janeiro)

Prosesu: Wedi olchi (Mae'r Coffi yn cael ei socian mewn dwr cyn ei ddadfwydo).

Blas: Llyfn, gyda blas cefndir o almwn a cheirios, gyda gorffeniad melys a melfedaidd.

Y Fferm: Mae'r cnydau yn tyfu ar uchder o 3,800 td. Mae'r uchder yma yn creu ffa sydd yn anarferol o drwchus melys gyda blas asidaidd glan.