Cefnogwch eich busnesau lleol.
8.6.12
16.3.12
Sul y Mamau #sulymamau
Beth am ddathlu Sul y Mamau gyda anrheg o dref Llanrwst.
Bys a Bawd - anrhegion arbennig gyda Mam wedi sgwenu ar ei hyd a cofiwch gerdyn o yma hefyd.
Mae gan Ty, Cariad, Trysorau Bach, Crafty Kitten ddigon o ddewis hefyd.
Beth am berswr o Siop Karen neu be am bryd o fwyd yn Amser Da neu Lle Hari.
Dathlwch Sul y Mamau yn Llanrwst.

12.3.12
50% i ffwrdd ar eitemau dethol - Blodeuwedd #bargeinion
Mae Blodeuwedd, siop lleni, defnydd, a dodrefn meddal
yn cynnig 50% i ffwrdd o eitemau dethol am gyfnod cyfyngedig.
Blodeuwedd
Ffordd yr Orsaf Llanrwst
21.2.12
Dydd Mawrth Ynyd - Llanrwst #crempog
Mae hi'n ddydd Mawrth Ynyd felly os ydych yn Siopa yn Llanrwst heddiw cofiwch brynu cynhwysion ar gyfer crempog.
Gofynnwyd i ddau o drigolion Llanrwst sut oedd gwneud y Crempog perffaith.
Dyma ei rysetiau nhw.
Crempog Elwyn Caffi Contessa
15oz o flawd
5 wy
5oz o siwgr
Pinshiad o halen
15ml o lefrith
10ml o ddŵr
Cymysgu a'i gwcio mewn sosban ffrio
(Cymysgedd yma, heb y siwgwr yn dda ar gyfer Pwdin Swydd Efrog hefyd)
Ar y crempog:
Jam mefus a hufen ia
Siwgr a sudd lemon
Banana, Nutella a hufen ia
Oren a Grand Marnier
Mi fydd Caffi Contessa yn gweini Crempog drwy ddydd Mawrth Ynyd
Crempog Nelson Lle Hari
Dipyn o flawd codi
2 wy
Llwy fwrdd o olew llysiau
Ychwnaegu llefrith tan ei fod yn llifo
(ychwnaegwch fwy o lefrith i wneud crepes tennau)
Cymysgu a'i gwcio mewn padell ffrio.
Ar y crempog:
Surop Masarn wedi ei gynhesu a Menyn Pysgnau
Ac fel hyn mae taflu crempog
9.2.12
Archfarchnad
Gyda honiadau yn chwyrlio o gwmpas Llanrwst am yr archfarchnad newydd mae yna gyfarfod cyhoeddus wedi ei alw. Mi fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar y 15fed o Chwefror 2012 am 1830 yn Ngwesty'r Eryrod Llanrwst.
Mi fydd siaradwyr gwadd a cyfle i chi fynegi eich barn.
Ar lein mae yna flog newydd gyda lle i ddatgan barn a darllen newyddion am y datblygiadau.
http://tescollanrwst.blogspot.com
Twitter http://twitter.com/tescollanrwst
Facebook http://www.facebook.com/pages/Archfarchnad-Llanrwst-Supermarket-Llanrwst/227009500723776
Mynegwch eich barn a cymerwch rhan yn y bleidlais barn.

Barclays Llanrwst - Amseroedd Agor Dryslyd
Mae yna ychydig o ddryswch wedi bod yn ddiweddar gyda amseroedd agor Banc y Barclays ar y sgwar yn Llanrwst.
Os ydych yn digwydd darllen y Gymraeg mi fydd y banc wedi cau ar Dydd Mawrth a Dydd Iau
Ond yn Saesneg mi fydd wedi cau Dydd Mercher a Dydd Sadwrn.
Mae'r banc yn ymwybodol o'r dryswch meddai aelod o'r staff.
4.2.12
Mis o Gariad - Bwyty Lle Hari
Galw ar gariadon Llanrwst a thu hwnt!
Archebwch fwrdd heddiw ar gyfer mis Chwefror.
01492 642111
Gweithdy Gwneud Defaid
Os hoffech ddysgu sut i wneud Defaid gyda clai Fimo beth am fynd i The Crafty Kitten dros hanner tymor.
Bydd cwrs ar y Dydd Mawrth y 14eg o Chwefror a Dydd Iau 16eg o Chwefror.
Archebwch eich lle. Pris £10
01492 643454
24.1.12
Diwrnod Santes Dwynwen 2012
Peidiwch anghofio Diwrnod Santes Dwynwen dydd Mercher yma 25/01/12
Dewch i Llanrwst am flodau, cardiau neu anrheg bychan i'ch cariadon.
Mae digon o ddewis i'r cariadon yn ein siopau lleol.
X
Subscribe to:
Posts (Atom)