31.1.10

Coffi

Pob mis mae Caffi Contessa ar sgwar Llanrwst yn amrywio eu coffi.
Mis yma coffi Santa Clara o Guatemala sydd ar gael.


Mae on goffi da ond heb fod yn rhy gryf.


Mae'r coffi yn cael ei dyfu rhwng tair llosgfynydd mewn pridd folcanig.





Fferm: Santa Clara (Antigua)
Math: Bourbon, Caturra
Prosesu: Ei olchi ai sychu ar y patio
Uchder: 1,600-1,830 medr
Perchnogion: Y teulu Zelaya
Dinas: Antigua
Ardal: Antigua Valley

Gwyliwch allan am y gacen siocled ar gacen foron sydd yn mynd yn dda iawn gyda'r coffi uchod.


28.1.10

Chef y flwyddyn - Daily Post


Unwaith eto eleni gallwch bleidleisio i'ch "Chef y Flwyddyn"yn y Daily Post.



Yn cynrychioli Llanrwst mae Ffion Cawley
sydd yn chef yn
Lle Hari yn Ngwesty y Dolydd
sydd yn cynnig bwydlen coginio cartref Cymreig gyda naws arbennig Americanaidd.



I bleidleisio ewch i wefan Chef y Flwyddyn y Daily Post

23.1.10

Siop Ty - y cyntaf yn Nghymru i dderbyn y cerdyn teyrngarwch Clubshop Rewards



Llongyfarchiadau i Huw Cunnah, perchennog siop Ty yn Llanrwst am fod y cyntaf i dderbyn y cerdyn Clubshop Rewards yn Nghymru.
Bydd cwsmeriaid yn gallu derbyn pwyntiau am siopa yn Ty.
Mae siop Ty yn gwerthu dodrefn, lampau, llestri, planhigion ac anrhegion o bob math.

Am fwy o wybodaeth, dyma wefan Ty
www.directhomeware.com


Er mwyn casglu pwyntiau gwobrwyo yn Ty, siopau eraill neu ar y we gallwch ymaelodi yn rhad ac am ddim gyda Clubshop Rewards.

Casglwch gerdyn aelodaeth yn Ty neu cofrestrwch am aelodaeth am ddim ar y wefan yma.
Gwefan ymaelodaeth Clubshop Rewards




Cewch gyfnewid eich pwyntiau gwobrwyo am arian, talebau neu gallwch roi i elusen, clwb neu gymdeithas








Mae cerdyn Clubshop Rewards yn ffordd rhad ac effeithiol o hysbysebu a gwobrwyo pobl am siopa yn lleol.
Os hoffech chi dderbyn y cerdyn Clubshop Rewards yn eich siop neu fusnes cysylltwch a Llion.
Ebostiwch lliongerallt@gmail.com neu ffoniwch 07802472822