29.4.10

Bedwen Lyfrau Llanrwst - I'r Plant

Mi fydd digon i'w wneud i'r plant dydd Sadwrn yn y Fedwen Lyfrau


Llyfrau newydd Alun yr Arth – gweithdy gyda Morgan Tomos 10.15 a 3.00


Gweithdy Siriol Swyn – 10 o lyfrau newydd am dylwyth teg – gweithdy gliter ar gyfer merched 10.15 a 3.00

Y Ddraig Groch – (sylwer GROch – nid Goch !!) gan Myrddin ap Dafydd – yn y Gyfres Cerddi Lloerig – a mae o yn gwneud gweithdy cerddi lloerig am 11.30.

Academi Iwan - y gyntaf mewn cyfres o lyfrau pel droed – Bydd gem bel droed swmllyd – pen-bwrdd , etc gyda Gordon Jones 1.00

Sesiwn Tudur Budur gyda Gwenno Mair Davies 1.30 ( Un newydd – Tudur Budr – Mwd yn dod gobeithio?)

I’R PLANT LLEIAF MAE SESIYNAU CADW’N HEINI gyda HEINI o CYW a Sali Mali yno 10.15, 11.30 , 1.30 a 3.00

Mae’r Ffermwyr Ifanc yn lawnsio Llyfr Coginio am 1 o’r gloch ac mi fydd Bethan Wyn Jones yn arwain taith natur ar lan yr afon 1.30


Llyfrau ar werth yn Glasdir ar y diwrnod neu yn Siop Bys a Bawd

24.4.10

Papurau Bro Y Pentan a'r Odyn - Mis Ebrill

Mae'r Pentan a'r Odyn ar gyfer mis Ebrill yn y siopau rwan.

Ar gael yn y siopau canlynol.
Martins
Spar



20.4.10

Bargeinion Gwarant - Owens, Nwyddau Trydanol ag Electronig

Mae Owens yn cynnig bargeinion gwarant ar ei nwyddau









Gwarant 5 mlynedd am ddim ar rhai setiau teledu Panasonic - Gorffen ar Fehefin 30ain 2010
Gwarant 5 mlynedd am ddim ar rhai setiau teledu LCD JVC 26" & 32" - Gorffen ar Fehefin 30ain 2010










Gwarant 3 mlynedd am ddim ar rhewgelloedd LEC - parhaol
Gwarant am ddim ar rhai Golchwyr Dillad, Sychwyr Dillad a Rhewgelloedd tan-gownter Whirlpool - Gorffen ar Fehefin 30ain 2010
Mae cludiant lleol a gosod am ddim.

Owens Electronic and Electrical Stores
Heol Ddinbych, Llanrwst
01492 641943


15.4.10

Desgiau Cyfrifiadur Dyfodolaidd - CL Jones Llanrwst

Os am fwrdd gwahanol ond eto sydd a steil modern ar gyfer eich cyfrifiadur ewch i C.L.Jones ar Heol Dinbych.





















Gwych ar gyfer swyddfa minimalistig


Mae dewis eang o ddodrefn ar gael yn y siop ac mae cludiant am ddim o fewn dalgylch o 50 milltir.

C. L Jones 24-30 Heol Dinbych, Llanrwst, Conwy, LL26 0AB
Ffon 01492 641798


Ar Agor

9-5 Llun i Sadwrn

Cau Dydd Sul

Map Street View


View Larger Map

12.4.10

Cynnyrch Keith Brymer Jones ar gael yn Ty

Mae Ty yn gwerthu llestri arbennig Keith Brymer Jones
Mae ei lestri yn enwog am ei labeli bychain sydd yn dynodi
cynnwys y llestr yn Gymraeg.
























Cwpan coffi
























Powlen Gawl

Mae dewis eang ar gael yn y siop

Ty, Ancaster Square, Llanrwst
Perchennog: Huw Cunnah
Ffon: 01492 642224
Gwefan:
http://www.directhomeware.com/
E-bost:
sales@directhomeware.com
Map
Anrhegion, Dodrefn, Nwyddau i'r Cartref, Fframiau, Goleuadau

Cofiwch gallwch dderbyn pwyntiau ClubShop Rewards







3.4.10

Nofel y Mis Ebrill 2010 - Ar Drywydd y Duwiau











Emlyn Gomer Roberts
Nofel ffantasïol sy'n gymysgedd o ddylanwadau Tolkien, Terry Pratchett, Julian May, Star Wars - a hyd yn oed Star Trek! - ond mae hon yn uchelgeisiol, wreiddiol, ffraeth a chwbl Gymreig. Addas ar gyfer pawb dros 16 oed.