1.9.14

Blas ar Fwyd yn rhoi Llanrwst ar y map.

Fel rhan o weddnewidiad newydd Blas ar Fwyd bu criw o'r cwmni yn ymweld a siopau oedd yn cyflenwi cynhyrch Blas ar Fwyd.

Gwenllian o Blas ar Fwyd gyda'i stondin yn Spar Llanrwst

Cafwyd cyfle i flasu y Colslo enwog a Chacen Gaws bendigedig a stydio y brandio newydd sydd yn rhoi Llanrwst ar y map yn llythrenol.

Colslo bendigedig Blas ar Fwyd yn arddangos y brandio newydd.



Map o Llanrwst sydd yn ganolbwynt i'r brandio newydd gyda'r lliwiau du a gwyn yn gwneud y brandio yn drawiadol.




6.6.14

Enillwch bryd o fwyd i bedwar - Dyffryn Conwy Naturiol #llanrwst


o Facebook Dyffryn Conwy Naturiol
Ydych chi’n hoffi bwyd lleol? Enillwch bryd o fwyd i bedwar!

Mae brand bwyd a diod lleol Conwy Wledig, Dyffryn Conwy Naturiol, yn cynnig Cinio dydd Sul blasus i bedwar yn un o'n bwytai lleol i enillydd ein cystadleuaeth llun.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw tynnu llun o fwyd neu ddiod gan unrhyw un o'n cynhyrchwyr lleol sy’n defnyddio'r brand Dyffryn Conwy Naturiol. Gallwch ddod o hyd i gynhyrchwyr yn ein Canllaw Bwyd a Diod Lleol diweddaraf neu yn www.conwywledig.org.uk.

Ar ôl tynnu’r llun, rhannwch ef ar dudalen Partneriaeth Wledig Conwy ar Facebook ynghyd ag enw’r busnes a gynhyrchodd y bwyd neu’r diod a’r siop lle prynwyd y bwyd neu’r diod. Gallwch dynnu’r llun gartref neu mewn gwesty, bwyty, tafarn neu unrhyw le arall cyhyd ag y mae'n cynnwys bwyd neu ddiod gan ein cynhyrchwyr Dyffryn Conwy Naturiol.

Bydd yr enillydd gyda'r mwyaf sy’n ei "hoffi" yn derbyn Cinio Dydd Sul i BEDWAR yn The Cliffs - Rhyd y Foel.

Am beth ydych chi'n aros? Anfonwch eich llun ... Mae gennych tan 27 Mehefin i’w anfon. Pob lwc!




30.4.14

Cyri a Choffi - buddugwyr #Llanrwst

Llongyfarchiadau i Ty Asha Balti am ennill cystadleuaeth Ty Cyri Gorau Cymru 2014, mae nhw'n haeddu gan fod ei bwyd yn fendigedig.

http://www.welshcurry.co.uk/ty-asha-balti-llanrwst-crowned-welsh-curry-house-year-2014

Hefyd da iawn Caffi Contessa am ddod yn bedwerydd yn nghysteuaeth Siop Goffi gorau Gogledd Cymru.


http://www.dailypost.co.uk/whats-on/food-drink-news/y-pantri-named-best-coffee-7007551


21.11.13

Saws cyri Gwyddelig Siop Tir a Mor #llanrwst

Oes na rhywyn arall wedi blasu saws cyri Gwyddelig siop sglods Tir a Mor? Mae on fendigedig, be sydd ynddo fo?

19.11.13

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach - Rhagfyr y 7fed #llanrwst @siambrllanrwst @smallbizsaturdayuk



Cofiwch am Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar y 7fed o Rhagfyr.

Dewch i wneud eich SIOPA DOLIG a chefnogi busnesau bach Llanrwst.



6.6.13

Geraniums a photiau Terracotta - Siop Ty, #Llanrwst @directhomeware


Siop Ty 
Sgwar Ancaster, Llanrwst
Dodrefn, anrhegion, potiau a phlanhigion


31.3.13

Cyfarchion y Pasg - Siopau Llanrwst #llanrwst

Siopau a Busnesau Llanrwst, Pasg 2013