6.6.14

Enillwch bryd o fwyd i bedwar - Dyffryn Conwy Naturiol #llanrwst


o Facebook Dyffryn Conwy Naturiol
Ydych chi’n hoffi bwyd lleol? Enillwch bryd o fwyd i bedwar!

Mae brand bwyd a diod lleol Conwy Wledig, Dyffryn Conwy Naturiol, yn cynnig Cinio dydd Sul blasus i bedwar yn un o'n bwytai lleol i enillydd ein cystadleuaeth llun.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw tynnu llun o fwyd neu ddiod gan unrhyw un o'n cynhyrchwyr lleol sy’n defnyddio'r brand Dyffryn Conwy Naturiol. Gallwch ddod o hyd i gynhyrchwyr yn ein Canllaw Bwyd a Diod Lleol diweddaraf neu yn www.conwywledig.org.uk.

Ar ôl tynnu’r llun, rhannwch ef ar dudalen Partneriaeth Wledig Conwy ar Facebook ynghyd ag enw’r busnes a gynhyrchodd y bwyd neu’r diod a’r siop lle prynwyd y bwyd neu’r diod. Gallwch dynnu’r llun gartref neu mewn gwesty, bwyty, tafarn neu unrhyw le arall cyhyd ag y mae'n cynnwys bwyd neu ddiod gan ein cynhyrchwyr Dyffryn Conwy Naturiol.

Bydd yr enillydd gyda'r mwyaf sy’n ei "hoffi" yn derbyn Cinio Dydd Sul i BEDWAR yn The Cliffs - Rhyd y Foel.

Am beth ydych chi'n aros? Anfonwch eich llun ... Mae gennych tan 27 Mehefin i’w anfon. Pob lwc!




No comments:

Post a Comment