26.2.10

Paratoi ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi

Mae trigolion Llanrwst wrthi'n paratoi at ddathlu Gwyl Ddewi ar Fawrth y 1af.

Prynnwch dusw bach del o Gennin Pedr
gan Mrs Williams
yn y Siop Flodau (GL & RM Williams )
ar Ffordd yr Orsaf.





Bydd caffi Contessa yn cynnig danteithion Cymreig fel Lobsgows
a Caws Pob ar eu bwydlen ddydd Llun.


I'r rhai fydd angen Cennin i'w cap neu i wneud
Cawl Cennin ewch i weld Wyn yn O'r Pridd i'r Plat.







Cyn y dathlu cofiwch wylio Can i Gymru ar Nos Sul yr 28ain o Chwefror.
Bydd Tomos Wyn (mab Wyn a Paula) yn canu can Alun Tan Lan yn y gystadleuaeth ar S4C.
Cofiwch wylio a phleidleisio i Bws i'r Lleuad.

No comments:

Post a Comment