28.11.10

Croeso Cynnes yn siopau Llanrwst - er yr eira

Er yr eira diweddar ma na groeso mawr i bawb yn siopau Llanrwst.

Y Siop Iechyd
Da ni yn estyn croeso hefyd i berchnogion newydd Y Siop Iechyd sydd wedi symud i'r hen Harp Stores.










 

Ewch i weld y siop ar ei newydd wedd gyda'r danteithion iachus sydd ar gael. Os am anrheg Nadolig, beth am hamper yn llawn cynyrch o'r siop.
Gwefan Y Siop Iechyd

Addurniadau Nadolig

Mae nifer o Siopau Llanrwst wedi dechrau addurno ei ffenstri. Un o'r rhai cyntaf oedd Rasio 1868, siop beics Llanrwst.

Mae'n werth ymweld er mwyn cael anrheg i unrhywyn sydd yn ymddori a seiclo.


Sêl Win
Cofiwch am Sêl Win, Blas ar Win sydd yn dechrau ar y 3ydd o Rhagfyr tan yr 18fed o Rhagfyr 2010.
Cyfle i gael bargeinion ar gyfer anrhegion neu ar gyfer chi eich hun wrth gwrs. 
Cofiwch hefyd am ei hamperi tymhorol.


No comments:

Post a Comment