21.2.12

Dydd Mawrth Ynyd - Llanrwst #crempog


Mae hi'n ddydd Mawrth Ynyd felly os ydych yn Siopa yn Llanrwst heddiw cofiwch brynu cynhwysion ar gyfer crempog.

Gofynnwyd i ddau o drigolion Llanrwst sut oedd gwneud y Crempog perffaith.
Dyma ei rysetiau nhw.

Crempog Elwyn Caffi Contessa
15oz o flawd
5 wy
5oz o siwgr
Pinshiad o halen
15ml o lefrith
10ml o ddŵr

Cymysgu a'i gwcio mewn sosban ffrio

(Cymysgedd yma, heb y siwgwr yn dda ar gyfer Pwdin Swydd Efrog hefyd)

Ar y crempog:
Jam mefus a hufen ia
Siwgr a sudd lemon
Banana, Nutella a hufen ia
Oren a Grand Marnier

Mi fydd Caffi Contessa yn gweini Crempog drwy ddydd Mawrth Ynyd

Crempog Nelson Lle Hari
Dipyn o flawd codi
2 wy
Llwy fwrdd o olew llysiau
Ychwnaegu llefrith tan ei fod yn llifo
(ychwnaegwch fwy o lefrith i wneud crepes tennau)
Cymysgu a'i gwcio mewn padell ffrio.

Ar y crempog:
Surop Masarn wedi ei gynhesu a Menyn Pysgnau



Ac fel hyn mae taflu crempog

No comments:

Post a Comment